Y Red Arrows
Cadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych y bydd Sioe Awyr Y Rhyl yn cael ei chynnal dros bythefnos Gŵyl y Banc er gwaetha damwain drasig yn Sioe Awyr Shoreham dros y penwythnos.
Yn dilyn cyfarwyddyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), fe benderfynodd Cyngor Sir Ddinbych y bydd Sioe Awyr Y Rhyl yn digwydd fel arfer.
Mae Heddlu Sussex yn ofni bod hyd at 20 o bobl wedi cael eu lladd yn y ddamwain yn Shoreham ddydd Sadwrn ar ôl i awyren blymio i ffordd yr A27 gan wrthdaro a nifer o gerbydau.
‘Dros y môr’
Dywedodd Cyfarwyddwr Hedfan Sioe Awyr Y Rhyl, Mike Wood: “Rwy’n deall y gallai fod gan bobl bryderon ynghylch diogelwch yn dilyn y digwyddiad ofnadwy ddydd Sadwrn ond hoffwn gadarnhau mai un o’r prif wahaniaethau yw bod y rhan fwyaf o’r digwyddiad yn Y Rhyl yn cael ei berfformio dros y môr, sy’n cynnig diogelwch naturiol i wylwyr.”
Fe fydd awyrennau’r Red Arrows hefyd yn gwneud perfformiad, sydd, yn ôl Mike Wood, wedi derbyn caniatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Yr unig eitem sydd ag unrhyw elfen o hedfan dros y dorf fydd y Red Arrows, sydd wedi derbyn caniatâd arbennig gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r CAA. Ar gyfer hyn, byddant yn hedfan yn uchel, yn syth a gwastad mewn ffurfiant sefydlog.”
“Rydym hefyd yn cadw llygad ar yr ymchwiliadau ar ôl y digwyddiad yn Shoreham,” meddai Mike Wood, “a byddwn yn amlwg yn barod i weithredu unrhyw newidiadau i reoliadau ar unwaith os byddant yn cael eu newid.”
‘Diogelwch yn flaenoriaeth’
Ychwanegodd Aelod Cabinet Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Ddatblygu Cymunedol, y Cynghorydd Huw Jones: “Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Shoreham yn wirioneddol ysgytwol ac mae ein meddyliau yn sicr gyda’r rhai a effeithiwyd arnynt.
“Ar ôl derbyn cyngor arbenigol, byddwn yn parhau gyda’n sioe. Hoffwn sicrhau pawb fod diogelwch yn brif flaenoriaeth a bydd y penwythnos hwn yn adeiladu ar lwyddiant yr holl flynyddoedd blaenorol.”
Mae’r sioe yn denu miloedd o wylwyr yn flynyddol, ac yn ôl y Cynghorydd Huw Jones: “Byddwn yn barod i groesawu’r miloedd lawer o wylwyr i’r digwyddiad ffantastig hwn sy’n un o brif ddigwyddiadau’r Haf.”