Fe fu’n rhaid i drigolion 11 o dai yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf adael eu cartrefi oherwydd tirlithriad neithiwr.

Digwyddodd y tirlithriad yn Heol Y Beiliau yn y pentref tua 6.10yh nos Sul, Awst 23.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yno i ddelio gyda’r tirlithriad.

Meddai Jennie Griffiths pennaeth ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Cafodd criw o Bont-y-clun eu hanfon yno oherwydd adroddiadau bod rwbel yn disgyn ar y tai.

“Roedden nhw yno am oddeutu pedair awr yn gwneud y safle’n ddiogel.”

Bu’n rhaid i’r trigolion dreulio’r noson gyda theulu neu ffrindiau.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn ymchwilio i’r tirlithriad.