Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Seland Newydd, Mils Muliaina, wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw ym mis Mawrth eleni. Fe ymddangosodd gerbron ynadon yng Nghaerdydd.

Nid yw Muliaina eto wedi cyflwyno ei blê, ond mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Seland Newydd eisoes wedi cyhoeddi fod y cefnwr yn “gwadu’n gryf” gwneud unrhyw beth o’i le, a’i fod yn bwriadu pledio’n ddieuog.

Fe fydd yr achos yn erbyn Mils Muliaina, sy’n byw yn Galway, Iwerddon ac yn chwarae i Zebre yn yr Eidal, yn parhau yn Llys y Goron Caerdydd ar Fedi 7.