Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ddyn maen nhw’n credu sydd wedi dianc i Ogledd Iwerddon yn ymwneud ag achos o lofruddiaeth yng Nghymru.

Mae ditectifs yn credu fod Alec Warburton, dyn 59 oed o Abertawe a ddiflannodd ar 31 Gorffennaf, wedi cael ei ladd, ac yn awyddus i ddod o hyd i’w denant David Ellis.

Yn ôl swyddogion yr heddlu cafodd David Ellis, sydd yn 40, ei weld yn dod oddi ar fferi ym Melfast ar ôl dal y cwch o Lannau Mersi ar 6 Awst.

Mae’r heddlu bellach yn trin yr achos fel un o lofruddiaeth, ac yn chwilio am gorff Alec Warburton o gwmpas ardal Betws y Coed ble maen nhw’n ei amau o fod.

Canfod car

Cafodd yr heddlu adroddiad bod Alec Warburton ar goll o’i gartref yn Ffordd Vivian, Sgeti ar 2 Awst, ar ôl cael ei weld am y tro olaf ychydig ddyddiau ynghynt.

Cafwyd hyd i gar Alec Warburton, Peugeot 205 gwyrdd tywyll, ym Mhenbedw, ac yn gynharach roedd wedi cael ei yrru i ardal Betws y Coed.

“Mae ein hymholiadau wedi cadarnhau fod Mr Ellis wedi teithio ar fferi Stena Line Lagan o Benbedw i Belfast am 10.30yh dydd Mercher 5 Awst gan gyrraedd Belfast am 6.30yb dydd Iau 6 Awst,” meddai’r heddlu.

“Fe welwyd Mr Ellis yn gadael y fferi am 6.58yb yn gwisgo crys siec, jîns a chap, yn cario pac a rycsac a nodweddiadol.”

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cydweithio â heddlu Gogledd Iwerddon i geisio dod o hyd i David Ellis, ac y gallai fod yn aros gyda theulu neu ffrindiau yn y wlad.