Mae bwrdd arholi CBAC wedi mynnu fod y drefn bresennol ar gyfer dyfarnu cymwysterau i ddisgyblion ysgol yn gweithio, yn dilyn awgrymiadau i’r gwrthwyneb.

Wrth drafod y canlyniadau TGAU diweddaraf ar raglen BBC Radio 4 World At One ddoe, fe awgrymodd golygydd The Economist y dylai’r byrddau arholi gwahanol gael eu huno i ffurfio un corff.

Dywedodd Emma Duncan y byddai cael un bwrdd arholi ar gyfer Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn sicrhau bod y safonau’n gyson ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Ond mae CBAC, y prif fwrdd arholi yng Nghymru, wedi dweud wrth golwg360 fod y system bresennol yn cynnig dewis i ysgolion a bod angen corff sydd yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion Cymru.

Uno’r byrddau?

Wrth drafod y mater ddoe fe ddywedodd Emma Duncan y gallai safonau disgyblion ddisgyn oni bai fod un corff arholi yn cael ei greu i gymryd lle’r nifer sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

“Mae [cael sawl bwrdd arholi] yn taro fi fel od a gwastraffus,” meddai golygydd The Economist.

“Os ydych chi eisiau mesur rhywbeth mae’n gwneud mwy o synnwyr i ddefnyddio’r un mesur ar eu cyfer nhw i gyd.

“Mae cael byrddau arholi sydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn golygu bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn gostwng safonau, achos mae ysgolion eisiau arholiadau haws er mwyn bod mwy o’u disgyblion yn cael graddau uwch. Mae hyn i’r gwrthwyneb i beth mae cymdeithas angen.”

Awgrymodd Gweinidog Addysg San Steffan Nicky Morgan y byddai newid o’r fath yn gorfod bod yn “ddiwygiad hir dymor”, ac nad nawr oedd yr amser gorau i wneud hynny.

“Rydyn ni wedi gweld llawer o newid yn ein system addysg dros y blynyddoedd diwethaf … ac rydyn ni nawr angen cyfnod o sefydlogrwydd er mwyn caniatáu i’r newidiadau yna setlo,” meddai.

“Byddai cael y newid hwnnw nawr ddim yn deg iawn.”

Gwasanaethu Cymru

Er bod addysg yn faes datganoledig i Gymru mae byrddau arholi yn gweithio ar draws ffiniau, gyda CBAC yn bennaf yn darparu papurau arholiad i ysgolion Cymru ond yn gwasanaethu rhai ysgolion yn Lloegr hefyd, a byrddau arholi eraill yn gwneud yr un fath gyda Chymru.

Mynnodd CBAC fodd bynnag bod angen cadw’r system bresennol gan fod angen i’r cyrff arholi fod yn darparu gwasanaethau penodol ar gyfer ysgolion mewn gwledydd datganoledig.

“Mae CBAC ymhlith y pedwar prif ddarparwr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn Lloegr, a pan ddaw manylion ffurfiol o syniadau’r Adran Addysg edrychwn ymlaen at gyfle i drafod,” meddai’r corff arholi wrth golwg360.

“Barn y byrddau arholi yw bod y drefn bresennol yn darparu dewis i ysgolion a cholegau o ran gwasanaeth, a bod lle i nifer o ddarparwyr o ystyried maint poblogaeth Lloegr a bod trefn yn ei lle i sicrhau cysondeb safonau.

“Yng Nghymru, mae CBAC yn datblygu i fod yn unig ddarparwr ar gyfer nifer cynyddol o gymwysterau gan nad oes diddordeb gan gyrff arholi mwyaf Lloegr mewn darparu yn benodol ar gyfer Cymru.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw’n gwneud sylw ar sylwadau Emma Duncan a Nicky Morgan gan nad oedden nhw’n cyfeirio at unrhyw gynlluniau penodol i Gymru.