Pont Y Bermo
Mae dros 20,o00 o bobol wedi arwyddo deiseb i geisio cadw pont Y Bermo ar agor.
Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan eu bwriad i ystyried cau’r bont sy’n croesi Aber Mawddach i gerddwyr a seiclwyr er mwyn arbed dros £30,000.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn talu’r arian i Network Rail er mwyn cynnal a chadw’r bont. Mae’r arian yn rhan o becyn o dros 100 o doriadau posib mae’r Cyngor yn cysidro wrth iddyn nhw chwilio am £9miliwn mewn arbedion.
Dechreuodd Amy Martin o bentref cyfagos Llwyngwril y ddeiseb ar wefan Change.org ddydd Mercher diwetha’ (Awst 12), ac mae 20,600 o bobol wedi arwyddo i geisio achub y bont a gafodd ei hadeiladu yn oes Fictoria.
O fudd i dwristiaid a phobol leol
Ym marn Amy Martin mae cadw’r bont ar agor i gerddwyr a seiclwyr o fudd i dwristiaid a thrigolion lleol a buasai ei gau yn ddrwg i’r economi.
“Mae’r bont yn linc allweddol o bobl leol yn ogystal â thwristiaid ac yn llwybr pwysig. Ers 150 mae’r bont wedi bod yn cysylltu pentrefi i’r de, megis Friog, Arthog a Llwyngwril ac mae’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan bobl sy’n gweithio yn Y Bermo,” meddai.
“Mi fasa cau’r bont yn golygu taith o 18 milltir o amgylch yr afon Mawddach i fynd i’r dref. Nid yw’n daith buasai pobl hawdd wrth feicio neu gerdded ac yn costio’n ddrud i rai mewn petrol.
“Fy ngobaith yw bydd y ddeiseb yma’n golygu gallwn drafod y mater yma gyda Chyngor Gwynedd yn y gobaith y byddent yn newid eu meddwl a ddim yn ei gau.”
Ymateb y Cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae’r Cyngor yn cynnal trafodaethau cychwynnol efo Network Rail ynghylch canfod ateb parhaol i’r mater hwn, fel rhan o drafodaethau ehangach gyda ynglŷn â gwaith cynnal a chadw ar y bont.”
“Nid oes gan y gwaith diweddar i godi Pont Briwet newydd ddim dylanwad ar y cynnig i atal talu i Network Rail i ganiatáu i gerddwyr groesi’r bont.”