Aaron Goode (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth, wrth geisio dod o hyd i fachgen yn ei arddegau sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos.

Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau fod Aaron Goode, 16, ar goll ddydd Mawrth, Awst 11. Mae’n 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt golau a llygaid glas.

Mae Heddlu De Cymru’n gofyn i unrhyw un sydd wedi ei weld, neu’n gwybod lle mae, i gysylltu â nhw ar y rhif 101.