Mae rhieni babi bach a fu farw ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle fore Llun, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio’r dyn a’r ddynes ar amheuaeth o ymosod yn dilyn marwolaeth y ferch fach wythnosau oed o stad Trem yr Wyddfa, Penygroes.

Mae’r farwoaleth yn dal i gael ei thrin fel un heb esboniad.