Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dangos naw gêm fyw yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yr hydref hwn gan gynnwys holl gemau Cymru yn y gystadleuaeth.

Mae gan y sianel hawliau i bob un o gemau grŵp tîm Warren Gatland yn ogystal â’r ornest agoriadol rhwng Lloegr a Fiji, un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm efydd a’r ffeinal.

Bydd sioe arbennig wedi’i chyflwyno gan Dot Davies hefyd yn cael ei darlledu bob nos Fercher yn dadansoddi a thrafod y gystadleuaeth wrth iddi fynd yn ei blaen, gyda gwestai arbennig o’r byd rygbi, ac fe fydd rhaglen Jonathan yn dychwelyd y noson cyn bob gêm.

Ac mae sêr Cymru wedi bod yn cadw eu hunain yn ddigon prysur yn y cyfamser – yn ogystal â’r ymarferion caled, fe fuon nhw’n tynnu’r lluniau du a gwyn oriog a phenderfynol yr olwg. Peidiwch â chroesi’r bechgyn yma!
Capten Cymru Sam Warburton (llun: S4C)

Naw gêm fyw

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar Nos Wener, Medi 18, gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol rhwng Lloegr a Ffiji yn Twickenham.

Yna fe fydd y sylw’n troi tuag at ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth, sydd yn dechrau ar nos Sul 20 Medi yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Uruguay.


Y canolwr Scott Williams (llun: S4C)
Bydd Cymru hefyd yn chwarae Lloegr yn Twickenham ar nos Sadwrn 26 Medi cyn herio Fiji yng Nghaerdydd dydd Iau 1 Hydref, ac Awstralia v Cymru fydd y gêm hollbwysig olaf yn y rowndiau grŵp ar ddydd Sadwrn 10 Hydref yn Twickenham.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno’r gemau byw gydag Wyn Gruffydd a chyn-gapten Cymru, Gwyn Jones fel sylwebwyr ac Owain Gwynedd fel gohebydd, gyda phob gêm hefyd ar gael i’w gwylio ar Clic.
Y bachwr Ken Owens (llun: S4C)

Trafod a dadansoddi

Yn ogystal â darlledu’r gemau mae’r sianel Gymreig hefyd wedi cyhoeddi sioe arbennig wedi’i chyflwyno gan Dot Davies fydd yn dadansoddi a thrafod Cwpan Rygbi’r Byd bob nos Fercher.

Mae disgwyl i’r sioe gael ei chynnal mewn clwb rygbi gwahanol yng Nghymru bob wythnos gydag enwau amlwg o’r byd rygbi fel gwesteion a Rhys ap William fel gohebydd.


Y cawr o asgellwr, George North (llun: S4C)
Bydd Dot Davies yn croesawu Gwyn Jones fel gwestai bob nos Fercher, a’r gwesteion eraill ar y sioe ac yn ystod darllediadau’r gemau byw fydd cyn-chwaraewyr Cymru, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Stephen Jones a Dwayne Peel.

Gwesteion eraill y sioe nos Fercher fydd Shane Williams, Derwyn Jones, Arthur Emyr, a’r brodyr Nicky a Jamie Robinson.


Y maswr Rhys Priestland (llun: S4C)
Yn ogystal â hynny, bydd rhaglen boblogaidd Jonathan yn dychwelyd yn ystod y bencampwriaeth gyda Jonathan Davies a Sarra Elgan yn bwrw golwg ysgafn dros y twrnament ar noswyl gemau Cymru.