Mae dyn o Rydaman, a oedd wedi ceisio osgoi talu dirwy barcio wrth daflu’r tocyn i ffwrdd, wedi talu mwy nag oedd yn ei ddisgwyl – ar ôl cael dirwy ychwanegol am daflu sbwriel yn y maes parcio.

Cafodd y dyn ei weld gan aelod o’r cyhoedd yn taflu dirwy barcio allan o’i ffenest wrth iddo adael maes parcio Stryd Marged y dref, a hynny ar ôl iddo dorri rheolau parcio yno.

Ac yn lle osgoi’r ddirwy parcio, sydd yn £70, mae’r dyn nawr wedi gorfod talu dros ddwbl hynny.

Yn ogystal â’r ddirwy am y trosedd parcio, fe gafodd gosb ychwanegol o £75 gan Gyngor Sir Gâr am daflu sbwriel wrth iddo geisio cael gwared â’r ddirwy.

‘Anfon neges’

Yn ôl y cyngor dyma’r ail waith mewn tri mis i rywun gael eu cosbi am daflu sbwriel wrth iddyn nhw geisio cael gwared â thocyn parcio, a’r gobaith yw ceisio dychryn rhagor o bobl rhag gwneud yr un peth.

“Dw i’n gobeithio bod hyn yn anfon neges fod pobl methu osgoi’r gyfraith yn y modd yma,” meddai’r cynghorydd Jim Jones sydd yn aelod o fwrdd Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd.

“Roedd y dyn yn meddwl y gallai osgoi dirwy am y trosedd parcio wrth daflu’r tocyn i ffwrdd; ond nawr mae wedi cael tocyn ychwanegol am daflu sbwriel.

“Fyddwn ni ddim yn goddef y math yma o ymddygiad ac fe fydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn troseddwyr.”