Mae un o ymddiriedolwyr yr elusen sy’n rhedeg Castell Aberteifi wedi ymddiswyddo, gan honni ei fod yn cael ei fwlio ar-lein.

Mewn datganiad cadarnhaodd Jann Tucker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwarchod Adeiladau Cadwgan (CBPT), bod Glen Johnson wedi gadael oherwydd bwlio ar y we, a’i fod wedi cymryd y cam er mwyn arbed loes pellach i’w deulu.

“Y prif reswm pam rwy’n ymddiswyddo yw er mwyn amddiffyn fy nheulu rhag y nifer fechan o unigolion sy’n erlyn ar y we oherwydd eu bod wedi cymryd yn erbyn y Castell a’i ymddiriedolwyr am nad yw’r prosiect union fel y bydden nhw’n hoffi ei weld,” meddai Glen Johnson mewn datganiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Cadwgan brynhawn heddiw.

“Dechreuais wirfoddoli yng Nghastell Aberteifi yn ôl yn y 1980au,” meddai Glen Johnson, “a dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â’r bobl fwyaf nodedig, talentog, ymroddedig ac arbennig a gweithio gyda nhw.”

Ychwanegodd Glen Johnson ei fod am barhau i hyfforddi arweinwyr teithiau, tywys ymwelwyr o gwmpas yr atyniad, a hyrwyddo’r Castell.

Dywedodd Jann Tucker, Cadeirydd CBPT: “Mae gwybodaeth hynod Glen am y Castell ac am hanes Aberteifi wedi bod yn rhan bwysig o sicrhau bod y safle fel y mae heddiw, a’u bod yn falch y bydd yn parhau i gefnogi’r lle, fel gwirfoddolwr.

Castell dan warchae

Yn mis Gorffennaf gadawodd cyfarwyddwr prosiect adnewyddu’r Castell, Cris Thomas ei swydd drwy gytundeb ar y cyd, er bod Golwg 360 yn deall mai “anghydweld mewnol” oedd y rheswm.

Mae nifer o drigolion Aberteifi yn anhapus nad yw hanes y diwylliant Cymraeg i’r Castell yn cael digon o sylw gan yr Ymddiriedolaeth.