Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddyn a’i ddau o blant yn ddiogel, wedi iddyn nhw fod ar ymweliad â gogledd Cymru yr wythnos ddiwetha’.

Roedd yna rai’n pryderu am Anthony Jones, 46, o Gaer a’i ddau o blant ifanc, gan nad oedd neb wedi’u gweld ers iddyn nhw fod yn Nhowyn ger Abergele ddydd Iau.

Ond mae Heddlu Swydd Caer wedi cadarnhau fod y teulu’n ddiogel ac yn iach.