Byddai cynnig ariannol annheg i S4C yn tanseilio diwylliant Cymreig, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Dywed Carwyn Jones mai’r “lefel dderbyniol isaf bosibl o ddarpariaeth” sy’n cael ei chynnig i raglenni Saesneg ar hyn o bryd.

Mewn llythyr at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall, rhybuddiodd fod bwlch cynyddol o ran cyllid rhwng Cymru a gweddill y DU, a bod angen £30 miliwn ychwanegol i gynhyrchu rhaglenni sy’n adlewyrchu bywydau pobol Cymru.

Yn y llythyr, fe ddywedodd Carwyn Jones: “Oni fydd y BBC yn rhoi rhagor o gyllid i Gymru mae’n bosibl mai cynulleidfaoedd Cymru fydd yn cael y fargen waethaf o blith holl wledydd y DU. Dyma’r gwir plaen ac nid wyf yn teimlo ei bod hi’n deg bod Cymru ar ei hôl hi fel hyn.

“Nid oes modd i BBC Wales bellach ddarparu rhaglenni comedi na dramâu o safon uchel ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru yn sgil prinder adnoddau. Dyma raglenni a ddylai adlewyrchu ein bywydau ynghyd â’n diwylliant unigryw.

“Cydnabu adolygiad blynyddol diweddar Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC fod ‘toriadau wedi golygu bod darpariaeth deledu BBC Wales ac eithrio rhaglenni newyddion mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o’r blaen’. Ni all y sefyllfa hon barhau – ac yn arbennig gan fod y sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, mor wahanol. Nid yw Cymru’n derbyn ei chyfran haeddiannol.

“Mae BBC Wales wedi creu cryn enw iddo’i hun am gynyrchiadau o’r radd flaenaf sydd wedi’u darlledu a’u canmol ar draws y byd gan gynnwys Dr Who, Sherlock a Hinterland. Yn amlwg, hoffem weld y llwyddiant hwn yn parhau ond mae’n hollbwysig nad yw hyn yn digwydd ar draul buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.”

Yn ogystal â’i bryderon am gyllid ar gyfer rhaglenni Saesneg, pwysleisiodd Carwyn Jones na ddylid ariannu rhaglenni o’r fath ar draul rhaglenni Cymraeg ar gyfer S4C.

“Hoffwn bwysleisio eto nad yw cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg yn golygu y dylai’r cyllid a gaiff ei roi i S4C neu BBC Cymru ar gyfer rhaglenni Cymraeg gael ei frigdorri.

“Mae gan y BBC swyddogaeth hollbwysig o safbwynt creu cynnwys Cymraeg ei iaith ac mae’n hollbwysig fod y gwaith hwn yn parhau.”