Mae tri o bobol wedi’u hanafu ac un wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot neithiwr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r ddamwain toc cyn 10yh, wedi i gar Suzuki Ignis a Ford Focus daro’n erbyn ei gilydd ar Heol Afan.

Bu farw gyrrwr y Suzuki Ignis, ond fe gafodd y tri arall eu trin gan barafeddygon yn y fan a’r lle cyn cael eu cludo i ysbytai Treforys a Phen-y-bont ar Ogwr.

Fe fu’r ffordd ar gau am bedair awr tra’r oedd yr awdurdodau’n ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn yr ardal cyn neu wedi’r ddamwain.