Mae’r A40 ar gau i’r ddau gyfeiriad yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn damwain ddifrifol yn Llanwrda.

Digwyddodd y ddamwain rhwng yr A482 a’r A483 ger Heol Newydd a Heol y Coleg.

Mae Heddlu Dyfed Powys ger safle’r ddamwain ar hyn o bryd, ac mae rhybudd i deithwyr am draffig prysurach nag arfer.