Llys y Goron Abertawe
Ni fydd athrawes sy’n gwadu gwerth miloedd o bunnau o eitemau wedi’u dwyn ar wefan eBay, yn wynebu achos llys arall, meddai erlynwyr.

Y mis diwetha’, fe fu Mari Richards yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Abertawe, wedi’i chyhuddo o werthu eitemanu wedi’u dwyn rhwng 2010 a 2012.

Ond roedd y tiwtor Saesneg 38 mlwydd oed, sy’n fam i ddau o blant, yn dweud nad oedd gan y busnes ddim i’w wneud â hi. Roedd nwyddau drud a oedd wedi’u dwyn o siop Debenhams yn Abertawe, yn cael eu gwerthu ar-lein.

Roedd Mari Richards wedi honni mai ei gwr, Gareth, oedd yn gyfrifol am y gwerthu, a bod ganddo fynediad i bob un o’i chyfrineiriau ar gyfer mynd ar y we. Fe glywodd y llys fod Mr Richards wedi colli ei waith yn swyddog diogelwch yn dilyn ymgyrch camera cudd.

Wedi i’r rheithgor fethu â dod i benderfyniad, fe roddodd y barnwr amser i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu p’un ai fydden nhw’n ail-agor yr achos.

Fe gyhoeddwyd rheithfarn ffurfiol yn Llys y Goron Abertawe ddoe, yn dweud fod Mari Richard yn ddieuog, a hynny wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu peidio mynd â’r achos ymhellach.

Mae Mr Richards wedi pledio’n euog i ladrata, a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesa’.