First Great Western (CCA 2.0)
Fe fydd streiciau’n effeithio ar brif lein reilffordd Llundain a De Cymru tros benwythnos gŵyl banc Awst.

Mae cwmni First Great Western wedi rhybuddio y bydd rhaid torri ar wasanaethau hir a gwasanaethau lleol ar 23 Awst a’r penwythnos wedyn wrth i aelodau o undeb yr RMT weithredu tros fwriad i gyflwyno trenau newydd.

Yn ôl yr undeb, fe fydd y rheiny’n golygu colli swyddi a gwasanaethau ond mae’r cwmni’n dweud y bydd y trenau newydd yn cynnig mwy o seddi, teithiau cyflymach a rhagor o wasanaethau.

Manylion gwasanaethau

Yn ôl y cwmni, fydd yna ddim gwasanaethau o gwbl rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ar ddyddiau’r streic a gwasanaeth cyfyngedig rhwng Abertawe a Llundain.

Fe rybuddiodd First Great Western y bydd  y trenau sy’n rhedeg yn llawn gyda llai o wasanaethau bwyd a diod arnyn nhw. Fe fydd y gwasanaethau’n dod i ben yn gynt yn y dydd nag arfer.

Un rhan o’r anghydfod yw disgwyliad y bydd gyrwyr trenau’n gyfrifol am gau’r drysau.