Fe fydd cynghorydd cymuned yn wynebu gwrandawiad disgyblu fory tros faterion cynllunio’n ymwneud â ffermydd gwynt.

Mae Haulwen Lewis o Gyngor Cymuned Llanfihangel-ar-Arth wedi’i chyhuddo o dorri cymalau yng Nghod Ymddygiad y cynghorwyr trwy beidio â datgelu bod ganddi fudd personol mewn materion oedd yn cael eu trafod gan y cyngor.

Roedd cwyn wedi ei gwneud gan bobol sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i godi ffermydd gwynt yn yr ardal.

Gwrandawiad yng Nghaerfyrddin

Fe fydd gwrandawiad Panel Dyfarnu Cymru yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin fory a ddydd Gwener.

Mae Golwg360 yn deall fod y cynghorydd yn debyg o wrthod yr honiadau yn ei herbyn.

Pe bai’r honiadau’n cael eu cadarnhau, mae gan y panel bwerau i atal neu wahardd cynghorwyr rhag eistedd – mae dyfarniadau yn y gorffennol wedi amrywio o roi rhybudd i gynghorwyr ynghylch eu hymddygiad i waharddiadau o hyd at bum mlynedd.