Bear Grylls
Mae mudiad y Bad Achub wedi cefnogi’r seren deledu, Bear Grylls, wedi iddo gael ei gondemnio’n wreiddiol am adael ei fab ifanc ar greigiau yng ngogledd Cymru ar gyfer sesiwn hyfforddi achub bywyd.

Roedd yr arbenigwyr ar dechnegau goroesi yn y gwyllt wedi cyhoeddi llun o Jesse Grylls, 12, yn sefyll ar y creigiau ger Abersoch gan ddweud wrth ei 1.2 miliwr o ddilynwyr: “Jesse a’r @RNLI mewn sesiwn achub oddi ar y creigiau!”

Ond, pan ddaeth rheolwr yr orsaf bad achub yn ol i’r gwaith ar ol gwyliau, roedd yn feirniadol iawn o’r ffaith fod y bachgen wedi’i ddefnyddio yn ystod yr ymarfer. Roedd Bear Grylls ar y pryd ar wyliau ar Ynys St Tudwal ddydd Iau diwetha’.

Ond heddiw, mae’r RNLI wedi rhyddhau datganiad sy’n diolch i Bear Grylls am ei gefnogaeth i’r mudiad.

“Mae’r RNLI wedi gweithio gyda Bear Grylls dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n llysgenad gwych, ac rydan ni’n ddiolchgar iawn am hynny.

“Roedd y bad achub o fewn cyrraedd agos iawn i’r bachgen, roedd y bachgen o fewn cyrraedd diogel ar bob achlysur, ac roedd y bachgen yn gwisgo siaced ddiogelwch.”