Mae amryw o bobl a fu’n gwersylla yn yr Eisteddfod ym Meifod yn teimlo’n flin ynghylch cyflwr y maes pebyll yno.
Yn wahanol i’r arfer dros y blynyddoedd diwethaf, pryd roedd lle i osod pebyll yn y maes carafannau, roedd gwersyllwyr yn cael eu hanfon i gae arall cyfagos eleni.
Roedd cwynion am gyflwr y toiledau, gyda’r cyflenwad dŵr yn methu’n aml, mwd o’i amgylch a drewdod cemegolion yn tarddu ohono.
Roedd amryw o wersyllwyr yn cwyno hefyd nad oedd modd iddyn nhw barcio eu ceir y tu allan i’w pebyll, a oedd yn golygu anghyfleustra mawr wrth orfod cludo pethau yn ôl ac ymlaen i’w ceir.
“Mae’r ffordd y mae’r Eisteddfod wedi’n trin ni fel gwersyllwyr yn gwbl annerbyniol,” meddai Haydn Hughes o Gaernarfon. “Roedd safon y cyfleusterau yn warthus ac yn sarhad ar bobl sydd wedi talu’n ddrud i ddod yma.”
Dywedodd Rhian Owen o Langefni fod cyflwr y maes wedi peri siom fawr iddi hi a’i gŵr Huw Owen.
“Rydan ni’n gwersylla yn yr Eisteddfod ers llawer blwyddyn ac erioed wedi cael maes mor wael â hwn,” meddai. “Dydi hyn ddim digon da.”
Dywedodd gwersyllwr arall ei fod yn ystyried anfon cŵyn at yr Eisteddfod.
“Mae’r maes pebyll yn gwbl anaddas i deuluoedd â phlant,” meddai. “Mae pobl sy’n gwersylla’n haeddu mwy o barch na hyn.”
Mae Golwg360 wedi cysylltu â’r Eisteddfod yn gofyn am ymateb.