Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Dywed Prif Weinidog Cymru fod y cysylltiadau rhwng Cymru a chymunedau Cymreig Patagonia wedi cael eu cryfhau yn sgil ei ymweliad â’r Wladfa ddiwedd y mis dweithaf.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar ôl ei ymweliad, mae Carwyn Jones yn canmol y digwyddiadau a gafodd eu cynnal i  ddathlu150 mlwyddiant glaniad y Cymry yno.

“Roedd modd gweld dylanwad Cymreig ym mhobman,” meddai.

“Ymwelais â Rawson, Trelew, Gaiman, Esquel a Threvelin ac mae’r gwladfawyr cyntaf wedi gadael etifeddiaeth gadarn sydd wedi galluogi’r cymunedau Cymreig i oroesi a ffynnu.

“Roedd yn hyfryd clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn eang, a gweld gyda’m llygaid fy hun fod bywyd diwylliannol Cymreig yn parhau yn yr Ariannin, diolch yn rhannol i lwyddiant prosiect y Gymraeg sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan y British Council.

“Cefais groeso cynnes ym mhob digwyddiad, a daeth fy rhaglen swyddogol i ben wrth i mi gynnal derbyniad i ddiolch i Gymry Chubut am eu lletygarwch a’u hymrwymiad parhaus i gadw’r diwylliant Cymreig yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rwy’n hynod o falch y bydd gwaddol yn cael ei adael i’r gymuned Gymreig ymhell ar ôl i’r dathliadau ddod i ben.”