Mae Heddlu’r De wedi enwi dyn 40 oed allai fod yn allweddol i’w hymchwiliad i ddiflaniad dyn 59 oed o Abertawe.

Nid yw Alec Warburton wedi cael ei weld ers iddo ddiflannu o’i gartref yn Heol Vivian, Sgeti ar Orffennaf 31.

Cafodd archwiliad fforensig ei gynnal yn Heol Vivian brynhawn ddoe, ac fe gadarnhaodd yr heddlu wrth golwg360 ei fod yn rhan o’u hymchwiliad i’w ddiflaniad.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n awyddus i siarad â David Craig Ellis, 40, sydd yn adnabod Alec Warburton.

Mae’r heddlu’n chwilio am gar Peugeot 205 gwyrdd, M805 HFJ.

Mae’r heddlu’n parhau ar y safle’r bore yma, ynghyd â phabell fforensig ym mlaen y tŷ.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.