Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Bwrdd o bobol ddylai fod yn gwneud gwaith Comisiynydd y Gymraeg nid un person, meddai arweinydd tîm ymchwil dylanwadol.

Mae rhoi’r cyfrifoldeb cyfreithiol ar un person yn cynyddu’r risg o gamgymeriadau, meddai’r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, sy’n awdurdod ar leiafrifoedd ieithyddol a chynllunio ieithyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod.

Yn achos comisiynwyr iaith mewn gwledydd eraill “corff o bobol awdurdodol sy’n rhan o gymryd penderfyniadau”, meddai wrth adrodd am beth o ffrwyth prosiect ymchwil tair blynedd i drefniadau tebyg o wlad i wlad.

Roedd yr ymchwil yn dangos nad oes dim un rheoleiddiwr arall mewn unrhyw faes yng ngwledydd Prydain lle mae’r cyfrifoldeb ar un person.

Gwendidau eraill

Yn y cyfarfod a oedd wedi ei drefnu gan gwmni Iaith o Gastellnewydd Emlyn, fe dynnodd Diarmait Mac Giolla Chriost sylw at nifer o wendidau eraill yn y drefn:

  • Roedd gwrthdaro, meddai, rhwng rôl y Comisiynydd yn sicrhau bod polisïau iaith y Llywodraeth yn cael eu gweithredu, ar un llaw, a’i rôl yn craffu ar bolisïau’r Llywodraeth ac, efallai, yn ymgyrchu yn ei herbyn. “Mae rhoi cyngor yn hollol briodol,” meddai, “ond mae craffu ar ochr arall y lein wleidyddol.”
  • Doedd gan y Comisiynydd ddim digon o adnoddau ymchwil ac arbenigol i wneud y gwaith yn iawn o roi cyngor i’r Llywodraeth chwaith.
  • Does yr un Comisiynydd Iaith mewn gwledydd eraill hefyd yn cael y cyfrifoldeb o hyrwyddo’r iaith yn ogystal â rheoleiddio. Ac, wrth i Gomisiynydd y Gymraeg rannu’r cyfrifoldeb hwnnw gyda’r Llywodraeth, dyw hi ddim yn glir pwy sy’n gwneud beth.
  • Roedd peryg i’r safonau iaith newydd gwympo rhwng dwy stôl – yn hytrach na bod yn set o safonau cyffredinol clir, roedden nhw’n dechrau mynd yn debycach i’r hen gynlluniau iaith trwy fod yn destun trafod rhwng y Comisiynydd a’r cyrff sydd i fod i’w dilyn.
  • Ar y dechrau, roedd y Prif Weinidog yn gyfrifol am yr iaith ac am y Tribiwnlys Iaith – yn ôl Diarmait Mac Giolla Chriost roedd hynny’n gwbl amhriodol ac roedd wedi dweud hynny wrth y Llywodraeth. Yn ôl Llywydd y Tribiwnlys, Keith Bush, mae’r Tribiwnlys wedi ei symud wedyn i ofal y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

Roedd gwaith y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnwys edrych ar lenyddiaeth arbenigol yn y maes mewn sawl iaith a chyfweliadau gydag arbenigwyr a chomisiynwyr a’u timau.