Mae ffigurau’n dangos bod llai o bobol wedi gwrando ar BBC Radio Cymru a Radio Wales yn y chwarter diwethaf o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Gwnaeth 10,000 yn llai wrando ar Radio Cymru bob wythnos rhwng mis Ebrill a mis Mehefin na’r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth, ond mae’r ffigwr yn parhau’n uwch nag yr oedd chwe mis yn ôl.

Colli 18,000 o wrandawyr yr wythnos yn yr un cyfnod wnaeth Radio Wales – yr ail chwarter yn olynol iddyn nhw golli gwrandawyr.

Bellach, mae gan Radio Wales 408,000 o wrandawyr bob wythnos, tra bod gan Radio Cymru 116,000.

Radio masnachol

 

Ymhlith prif orsafoedd masnachol Cymru, roedd newyddion da i Capital yn ne Cymru, wrth i’r ffigwr godi 13,000 i 199,000 bob wythnos, ac i Smooth Radio, sydd wedi gweld cynnydd o 20,000 bob wythnos.

Ond doedd y newyddion ddim cystal i Sain Abertawe, sydd wedi colli 14,000 o wrandawyr bob wythnos – bellach, 50,000 sy’n gwrando arni bob wythnos.

Collodd Capital yng ngogledd ddwyrain Cymru 28,000 o wrandawyr, fel bod ganddi 146,000 o wrandawyr bob wythnos erbyn hyn.