Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi dweud ei bod hi’n “bryd cael Llywodraeth newydd i Gymru” a bod Plaid Cymru “yn barod i roi arweiniad i’r genedl.”

Wrth nodi pen-blwydd Plaid Cymru yn 90 oed eleni, dywedodd yr arweinydd Leanne Wood,

ei bod hi am weld Cymru yn “arwain y ffordd”.

Dywedodd fod gan Gymru y cyfle i ethol llywodraeth newydd gydag etholiadau’r Cynulliad ar y gorwel fis Mai nesaf.

Esboniodd hefyd fod angen “syniadau newydd” ac “agwedd ffres” ar Gymru er mwyn sicrhau llwyddiant.

 

‘Cyrraedd potensial’

Bydd sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal gyda chabinet Plaid Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod heddiw.

Wrth siarad cyn y cyfarfod hwnnw, dywedodd Leanne Wood: “Mae gan Gymru’r pethau hanfodol i fod yn llwyddiant mawr, ond mae’n cael ei gadael lawr gan y llywodraeth bresennol a’i diffyg gweledigaeth ac uchelgais”.

Aeth yn ei blaen i ddweud y byddai ffurfio llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth ar y “bobol”, oherwydd “yn unigol ac fel pobol mae gennym record wych fel arloeswyr ac arweinwyr blaengar”.

“Ond, mae’n pobol yn cael eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial oherwydd hanes hir o fethiant gan y llywodraeth Lafur bresennol yng Nghymru” ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru.

Esboniodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru am roi sylw  i adfer y Gwasanaeth Iechyd a rhoi’r dechrau gorau posibl i bobol ifanc.

“Ry’n ni’n deall fod Cymru’n wynebu sawl sialens fel cenedl, ond does dim byd na ellir ei drwsio.”