Y Kingsway yn Abertawe
Dywed Heddlu’r De bod dyn wedi cael ei daro gan fws ar y Kingsway yn Abertawe prynhawn dydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger clwb nos Oceana tua 4 y prynhawn.

Cafodd y dyn 35 oed ei gludo i’r ysbyty ond dywed yr heddlu nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Bu’r ffordd ynghau tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad ond mae bellach wedi ail-agor.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddamweiniau ar ffordd y Kingsway yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Bu farw Daniel Foss, 37 oed, yn 2013 a chafodd y blismones, y Sarjant Louise Lucas, 41, o Gaerdydd, ei lladd ym mis Mawrth eleni.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn ystyried cyflwyno newidiadau mwy parhaol i’r ffordd brysur drwy ganol y ddinas.

Mae prif grwner dros Abertawe, Colin Phillips, wedi dweud bod diffygion yn y modd y cafodd y Kingsway ei dylunio a bod yn rhaid i’r Cyngor ymateb ar frys.