Llys y Goron Abertawe
Mae bachgen sy’n honni iddo gael ei dreisio gan bensiynwr yn dweud ei fod wedi cadw’n dawel am saith mlynedd am ei fod yn credu ei “fod yn normal”, clywodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Mae’r erlyniad yn honni bod Derek Desmond Butt, 85 oed, o Dreforys, wedi dechrau cam-drin y bachgen yn rhywiol pan oedd yn chwech oed a’i fod wedi parhau i’w gam-drin nes ei fod yn ei arddegau.

Mae Butt yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Clywodd y llys y byddai’r pensiynwyr yn dod i nôl y bachgen o’i gartref gan gymryd arno ei fod yn mynd ag ef i’r parc neu lan y môr.

Ond yn ôl yr erlyniad fe fyddai Butt yn mynd a’r plentyn yn ôl i’w gartref lle byddai’n ymosod arno’n rhywiol cyn rhoi hufen ia iddo.

Dywedodd tyst ar ran yr erlyniad, Kayleigh Francis, bod y bachgen wedi dweud yr hanes wrthi pan oedan nhw’n gwersylla dwy flynedd yn ôl.

Roedd y bachgen yn ei ddagrau wrth iddo adrodd yr hanes, meddai.

Credu ei fod yn ‘normal’

Roedd mam y bachgen, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, wedi siarad gyda’i mab yn ddiweddarach y noson honno.

Dywedodd  nad oedd ei mab erioed wedi son ei fod yn cael ei gam-drin  “am ei fod yn credu ei fod yn normal a’i fod wedi dechrau pan oedd mor ifanc,” meddai.

Roedd hi wedi adnabodd Butt a’i ddiweddar wraig Edna am nifer o flynyddoedd meddai.

“Roeddwn i’n teimlo drosto (ar ôl i Edna farw)”, meddai. “Ond nes i ddim meddwl am funud bod y pethau yma’n digwydd.

“Roeddwn yn ymddiried yn llwyr ynddo.”

Cafodd Butt ei arestio yn ei gartref yn Nhreforys ym mis Awst 2013.

Mae Butt wedi pledio’n ddieuog i 24 cyhuddiad yn ei erbyn rhwng 2006 a 2013. Maen nhw’n cynnwys treisio plentyn a chyffwrdd plentyn  yn gorfforol.

Mae’r achos yn parhau.