Llong Irish Ferries
Fe fu’n rhaid i gannoedd o deithwyr ar fferi oedd yn gadael Caergybi gael eu symud i long arall heddiw oherwydd gwyntoedd cryfion.

Roedd  llong  Irish Ferries yn paratoi i adael Caergybi ar ei ffordd i Ddulyn am hanner dydd pan gafodd ei wthio yn ôl yn erbyn y doc gan wyntoedd cryfion.

Cafodd tua 650 o deithwyr oedd ar fwrdd y llong eu symud i wasanaeth arall fel rhagofal.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Irish Ferries eu bod yn archwilio’r llong i asesu’r difrod a bod gwasanaethau eraill mewn lle i gludo teithwyr i Ddulyn am weddill  y dydd.

Mae gwyntoedd hyd at 62mya wedi cael eu cofnodi ar hyd rhannau o’r arfordir dros y 24 awr ddiwethaf.