Mae dirprwy bennaeth Ysgol Reoli Prifysgol Abertawe, Niall Piercy wedi ymddiswyddo o’i rôl.

Daw’r cyhoeddiad bythefnos yn unig wedi i’w dad, yr Athro Nigel Piercy, ymddiswyddo o’i rôl yntau fel Deon yr Ysgol Reoli.

Roedd honiadau gan aelodau staff yr Ysgol fod y tad a’r mab wedi aflonyddu, bwlio a neilltuo yn erbyn eu cydweithwyr.

Ar ei ymadawiad yntau bythefnos yn ôl, dywedodd yr Athro Nigel Piercy fod “anghydweld â’r Brifysgol ynghylch cyflwyno strategaeth yr Ysgol yn y dyfodol” wedi arwain at ei benderfyniad.

Y llynedd, roedd yr Athro Nigel Piercy wedi anfon e-bost at staff yn rhybuddio nad oedd yr Ysgol Reoli’n “hafan ar gyfer ffoaduriaid o’r 1960au”.

Roedd hefyd wedi cael ei feirniadu am ei agwedd wrth gyfathrebu â myfyrwyr drwy gyfrwng e-bost.

Ym mis Mai, fe fu’n rhaid i’r Brifysgol ymddiheuro ar ôl iddo ladd ar aelodau staff sydd hefyd yn aelodau o undebau llafur.