Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn argymell penodi barnwr o Gymru i’r Goruchaf Lys.

Prif Weithredwr y Goruchaf Lys, Jenny Rowe sydd wedi llunio’r adroddiad yn dilyn arolwg o’r comisiwn sy’n penodi barnwyr newydd.

Mae gan yr Alban ddau farnwr, tra bod gan Ogledd Iwerddon un.

Un posibilrwydd sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd yw penodi barnwr dros dro.

Mae 12 o farnwyr yn gweithio yn y Goruchaf Lys, ac mae comisiwn yn gyfrifol am benodi unigolion i swyddi gwag.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Toulson ymddeol fis Medi’r flwyddyn nesaf, a phump arall yn 2018.

Byddai angen i’r olynwyr fod wedi gwasanaethau’r Uchel Lys fel barnwr ers dwy flynedd, neu fod wedi bod yn gyfreithiwr ers 15 mlynedd.

Mae’r broses ar gyfer penodi i’r swyddi yn cynnwys:

–          Hysbysebion a cheisiadau agored

–          Ymestyn yr hawl i bobol nad ydyn nhw’n farnwyr i ymgeisio

–          Llunio rhestr fer a chynnal cyfweliadau

–          Ymgynghori â nifer o unigolion penodedig

Cymru

 

Yn ôl yr arolwg, roedd nifer o unigolion wedi ymateb i gais y comisiwn gan ddweud eu bod nhw’n credu bod angen barnwr o Gymru yn y Goruchaf Lys, ond nad nawr yw’r amser priodol.

Ond roedd eraill yn dweud y dylai Cymru gael eu cynrychioli’r un mor amlwg â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Nododd eraill nad yw nifer achosion y Goruchaf Lys sy’n effeithio ar Gymru’n cyfiawnhau penodi barnwr yn benodol i oruchwylio achosion Cymreig.

Ond nododd yr arolwg hefyd fod ennyn hyder y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu’n fater pwysig.

Ychwanegodd mai’r penderfyniad gorau fyddai penodi barnwr dros dro o Gymru hyd nes y byddai rhagor o achosion yn gofyn bod barnwr parhaol yn cael ei benodi.

Dywed yr arolwg fod nifer o bobol o’r farn na ddylai ystyriaethau daearyddol godi uwchlaw ffactorau eraill wrth ystyried pwy fydd yn cael eu penodi i’r swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r galw am farnwr o Gymru.