Ddoe oedd y dydd Llun prysuraf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ers chwe blynedd, wrth i 17,683 o ymwelwyr heidio i’r maes ger Meifod.

Mae disgwyl i’r niferoedd gynyddu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, gyda 51,720 o bobol eisoes wedi ymweld â maes yr Eisteddfod eleni o’i gymharu â 48,824 yr un adeg y llynedd yn Sir Gâr, a 50,657 yn Ninbych yn 2013.

Ddoe oedd y dydd Llun prysuraf ers Eisteddfod Meirionydd yn 2009 pan aeth 19,658 i’r maes.

Ond mae niferoedd yr ymwelwyr dyddiol yn cynnwys deiliaid tocynnau wythnos nad ydyn nhw o reidrwydd wedi ymweld â’r maes bob dydd.

Niferoedd dyddiol Eisteddfod 2015

Nos Wener: 2,605

Dydd Sadwrn: 15,023

Dydd Sul: 16,409

Dydd Llun: 17,683

155,390 oedd cyfanswm yr ymwelwyr ar ddiwedd yr wythnos  y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod yn yr ardal hon yn 2003.