Sammy-Jo Davies
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth dynes 19 oed trwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberdâr.
Roedd Kyle Owen Perkins, 25, o Frynhyfryd, Cwmaman, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful heddiw yn dilyn marwolaeth Sammy-Jo Davies yn y gwrthdrawiad yn ymwneud a fan ddoe.
Cafodd Perkins hefyd ei gyhuddo o yrru heb yswiriant, o gymryd cerbyd heb ganiatâd ac o fethu ag aros ar ôl damwain.
Fe fydd yr achos yn cael ei gyfeirio at Lys y Goron ac mae disgwyl gwrandawiad cychwynnol ar 18 Awst.
Cafodd saith o bobl eraill hefyd eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn ymwneud a fan LDV Maxus lliw coch, a oedd yn cludo wyth o bobl.
Bu farw Sammy-Jo Davies yn y fan a’r lle yn Nheras Bryn, Aberdâr a chafodd y teithwyr oedd wedi’u hanafu eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysog Siarl.
Mae’r Heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 101.