Mae Heddlu’r De wedi arestio llanc 16 oed yn dilyn adroddiadau am ymosodiad ar ddyn 67 oed yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd y dyn anafiadau ar ôl cael ei drywanu mewn digwyddiad yn Stryd Casnewydd, Grangetown am 7.15yh nos Lun.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond ni chredir bod ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth bywyd.

Dywed yr heddlu mai “digwyddiad domestig” oedd yr ymosodiad ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu lygad-dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod  1500282743.