Mae gyrrwr beic modur wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ger Dinbych y bore ma.
Dywed Heddlu’r Gogledd bod y dyn 60 oed wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n bygwth bywyd.
Maen nhw’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad ar Hen Ffordd Rhuthun rhwng Llandyrnog a Dinbych toc cyn 7.50 bore dydd Mawrth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod S116723.