Dr Ruth Hussey
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn annog pobl ifanc i gael brechiad i’w hamddiffyn rhag llid yr ymennydd.

Daw cyngor Dr Ruth Hussey yn sgil cynnydd mewn achosion o grŵp W meningococaidd y firws.

Mae’r brechiad ar gael o heddiw ymlaen a bydd yn cymryd lle’r brechlyn ar gyfer llid yr ymennydd math C.

Plant rhwng 13 a 18 oed a myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y brechiad.

Yn ôl Dr Ruth Hussey, plant oed ysgol uwchradd sydd a’r  risg mwyaf o gael y firws a dywedodd y dylai’r rhai sydd wedi cael brechiad Math C gael y brechiad diweddaraf hefyd.

Mae’n cynghori pob myfyriwr o dan 25 oed, sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf yn yr hydref, i gael y brechiad o leiaf bythefnos cyn iddyn nhw ddechrau.

Dylai pobl a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 1996 a 31 Awst 1997 gael y brechiad gan eu meddyg teulu, tra bydd plant iau yn gallu cael y brechiad yn eu meddygfa neu yn yr ysgol yn ystod y ddwy flynedd nesaf.