Cig oen
Mae rhai o ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwerthu eu hŵyn yr wythnos hon fel rhan o brotest yn erbyn prisiau isel cig oen.

Bwriad y brotest, sydd yn dilyn #NoLambWeek, yw codi ymwybyddiaeth am brisiau isel diweddar cig oen.

Mae’r pris y mae ffermwyr yn ei gael am eu hŵyn wedi disgyn tua 30% o’i gymharu â’r adeg hyn llynedd. Ond, mae ymgyrchwyr yn honni nad yw pris y cig yn yr archfarchnadoedd wedi disgyn yn sgil hynny.

Mae ymgyrch #NoLambWeek yn annog ffermwyr i beidio â gwerthu eu hŵyn rhwng 1 a 7 Awst 2015 er mwyn tynnu sylw i’r mater.

Codi ymwybyddiaeth

Fe ddaeth yr ymgyrch i fod yn dilyn trafodaeth yn y Sioe Frenhinol yn ystod mis Gorffennaf eleni.

Yn dilyn hynny, rhannwyd poster ar wefannau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth am gyflwr y farchnad ar hyn o bryd.

Mae’r poster yn honni nad yw’r ymgyrch am achosi anghyfleustra i’r cyhoedd, drwy flocio ffyrdd neu losgi pontydd fel y gwelwyd yn Ffrainc. Yn hytrach, eu bwriad yw codi ymwybyddiaeth am y sefyllfa.

Rhai o resymau am y cwymp diweddar ym mhrisiau ŵyn yw sefyllfa gref y bunt ar hyn o bryd, sy’n golygu bod mewnforio cigoedd coch o wledydd tramor yn rhad iawn. Yn ogystal, mae allforio cig o Gymru yn anodd, wrth i’r cyflenwad Cymreig gystadlu â gwledydd eraill.

Mae ffermwyr yn credu y dylai archfarchnadoedd wneud mwy i gefnogi ffermwyr Cymru, ac maen nhw wedi bod yn protestio ar hyd a lled y wlad.

Yr wythnos diwethaf, gwelwyd tua 100 o ffermwyr yn protestio y tu allan i archfarchnad Tesco yng Nghaerfyrddin, oherwydd eu bod nhw’n anhapus â faint o gig tramor oedd yn cael ei werthu yno.

Yn ôl Gareth Wyn Jones, ffermwr defaid ar fynyddoedd y Carneddau, Eryri: “Mae’n amser i ni fel diwydiant sefyll fyny. Nid swnian, ond rhoi gwybod i’r cyhoedd beth mae’r archfarchnadoedd yn ei wneud”.

Hybu Cig Cymru

Roedd Prys Morgan, o Hybu Cig Cymru, “yn deall ei bod hi’n gyfnod anodd iawn” ar ffermwyr Cymru.

Esboniodd fod y corff yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth am gig o Gymru, a’u bod nhw wedi ymestyn eu cyfnod ymgyrchu eleni.

Dywedodd fod nifer o resymau pam fod prisiau cig oen yn isel ar hyn o bryd, a’u bod nhw’n targedu’r cwsmer, yr archfarchnad, marchnadoedd cenedlaethol a marchnadoedd rhyngwladol fel rhan o’u hymgyrch.

Wrth edrych ar ddyfodol cig oen Cymreig yr oedd yn “mawr obeithio y byddai’r farchnad yn sefydlogi yn y dyfodol agos”.