Mae corff dyn wedi’i ganfod ar yr A48 ar Rodfa’r Gorllewin ger cyfnewidfa Gabalfa yng Nghaerdydd y bore yma.
Mae Heddlu’r De yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad, ac maent yn credu fod y dyn wedi disgyn oddi ar y drosffordd yno yn ystod oriau mân y bore.
Maen nhw’n credu y gallai’r dyn fod wedi bod yn cerdded tuag at y drosffordd o gyfeiriad Treganna.
Mae swyddogion yr heddlu yn apelio am unrhyw dystion a allai fod wedi bod yn gyrru ar draws neu o dan y gyfnewidfa rhwng tua 4 a 5 y bore yma i gysylltu â nhw.
Roedd y dyn a fu farw’n gwisgo siwmper lliw hufen a chrys-t coch, jîns glas ac esgidiau du.
Mae’r ffordd yn parhau ar gau ac mae teithwyr yn cael eu hannog i gymryd llwybr arall.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101, neu gysylltu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1500281718.