Russell Peachey
Mae Heddlu’r De yn parhau i holi dau ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 35 oed yng Nghaerdydd.
Cafwyd hyd i Russell Peachey o Gaerdydd yn anymwybodol ar Stryd y Gogledd yn y brifddinas fore Sadwrn yn dilyn ymosodiad.
Cafodd ei ddarganfod am oddeutu 4.20yb gan yr heddlu, a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.