Bu farw tri beiciwr modur mewn tair damwain wahanol yng Nghymru ddydd Sul.

Digwyddodd y ddamwain gyntaf tua 9 y bore, pan fu farw dyn 49 oed ar yr A489 rhwng Ceri a Sarn ym Mhowys, yn dilyn gwrthdrawiad â bws mini.

Digwyddodd yr ail ddamwain am tua 12.10 y prynhawn ar yr A470 yn Llwyn Onn ger Merthyr Tudful.

Bu farw’r gyrrwr beic modur, 53 oed, yn y fan a’r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng beic modur a char BMW gwyn wrth i’r ddau deithio i’r un cyfeiriad.

Cafodd y ddynes, 29 oed, oedd yn gyrru’r car BMW ei chludo i’r ysbyty am driniaeth, a’i rhyddhau’n ddiweddarach.

Llai nag awr yn ddiweddarach, bu farw beiciwr modur arall ar yr A470 yn ardal Pontypridd yn dilyn gwrthdrawiad gyda char Renault Clio.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, a chafodd gyrrwr y beic modur anafiadau angheuol.

Bu rhan o briffordd yr A470 tua’r de ar gau yn ystod y prynhawn a’r traffig yn cael eu dargyfeirio.

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i’r damweiniau ac yn apelio am dystion i’r digwyddiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.