Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad ar Rodfa’r Gorllewin yng Nghaerdydd ger cyfnewidfa Gabalfa y bore ma.

Mae’r ffordd orllewinol a dwyreiniol wedi’i chau ers 5yb bore dydd Llun ar gyfer traffig sy’n teithio o dan gyfnewidfa Gabalfa.

Mae’r Heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad yno, ac yn dargyfeirio traffig o’r ddau gyfeiriad i mewn i’r gyfnewidfa ac yna’n ôl i Rodfa’r Gorllewin.

Mae rhybudd y gall teithwyr weld oedi hir yn yr ardal y bore yma.

Nid yw Heddlu De Cymru wedi rhyddhau manylion am y digwyddiad, na chwaith pryd fydd y ffordd yn ailagor.