Y Babell Heddwch ar y Maes
Mae prosiect heddwch gwerth £1 miliwn yn cael sylw ar Faes yr Eisteddfod ac fe fydd ymgyrch i gael Academi Heddwch i Gymru’n cael ei lansio’n gyhoeddus yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener.

Bwriad prosiect Cymru dros Heddwch yw lledaenu gwybodaeth ac addysg am ymgyrchwyr heddwch yng Nghymru, yn arbennig yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae pennaeth a phump cydlynydd wedi eu penodi i wneud y gwaith sy’n cael ei arwain gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys yr Urdd.

Academi Heddwch

Fe fydd pump thema i’r gwaith, gan gynnwys ceisio dysgu rhagor am hanesion cudd ymgyrchwyr tros heddwch.

Fe fydd y prosiect, sydd wedi cael £1 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn parhau tros gyfnod cofio’r Rhyfel Mawr.

Mae’n rhan o fwriad ehangach o ffurfio Academi Heddwch i Gymru ac fe fydd cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Gwener, gydag un o gydlynwyr Cymru dros Heddwch, Jane Harries, aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop, Jill Evans, a Robin Gwyndaf o Gymdeithas y Cymod yng Nghymru.

Deiseb

Fe fydd y prosiect yn canolbwyntio llawer ar ysgolion ac mae Cymdeithas y Cymod hefyd yn cynnal deiseb i geisio atal y Fyddin rhag recriwtio yn ysgolion Cymru.

“Prydain yw tua’r unig wladwriaeth yn Ewrop lle mae plant 16 oed yn cael mynd i’r fyddin,” meddai Robin Gwyndaf.