Roedd bron i 4,000 o swyddi amaeth wedi cael eu colli yng Nghymru dros gyfnod o ddeng mlynedd, yn ôl arolwg newydd.

Cafodd y canlyniadau ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2013 eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Ar ddechrau’r arolwg, roedd 21,839 o ffermwyr wedi’u cyflogi’n llawn amser, ond fe ostyngodd y nifer i 17,873 erbyn 2013.

Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi yn Arolwg Amaethyddol Cymru mis Mehefin.

Roedd y nifer wedi gostwng ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru yn ystod y cyfnod dan sylw, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Nhorfaen (28%) a Sir y Fflint (27%).

Erbyn 2013, roedd nifer y ffermwyr oedd yn gweithio 40 awr neu fwy bob wythnos wedi gostwng o tua chwarter.

Mae nifer y ffermwyr rhan amser hefyd wedi gostwng yn ystod y degawd.