Russell Peachey
Mae Heddlu’r De wedi enwi’r dyn 35 fu farw wedi iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yng Nghaerdydd fore Sadwrn.

Mae’r heddlu’n trin marwolaeth Russell Peachey, 35 o Gaerdydd, fel achos o lofruddiaeth.

Bu farw yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ar Stryd y Gogledd yn y brifddinas.

Cafodd ei ddarganfod am oddeutu 4.20 fore ddoe gan yr heddlu, a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ail ddyn bellach wedi cael ei arestio mewn perthynas â’i farwolaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.