Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad difrifol ym Mhenrhiw yng Ngheredigion nos Wener.
Digwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 10.30 y nos, a chafodd dyn 24 oed ei anafu’n ddifrifol.
Mae’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Cafodd dyn 52 oed a dynes 40 oed eu harestio mewn perthynas â’r ymosodiad, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.