Dydy agwedd cynghorau sir at y Gymraeg ddim wedi newid wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio er gwaethaf deddfwriaeth newydd, yn ôl arolwg gan Gymdeithas yr Iaith.

Cafodd y cynghorau sir eu holi ynghylch y ffordd maen nhw’n addasu eu polisïau cynllunio yn sgil pasio Deddf Cynllunio fis Mai.

Nid yw’r un o’r cynghorau a ymatebodd yn bwriadu newid eu hymdriniaeth o’r iaith.

Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae’n orfodol i’r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol statudol i’r system gynllunio, sy’n rhoi grym statudol i gynghorwyr wrthod neu dderbyn datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

Mae’n orfodaeth hefyd i’r gyfundrefn hybu datblygu cynaliadwy, gan gynnwys ystyriaeth o anghenion y Gymraeg.

Yn ôl y ddeddf, rhaid i awdurdodau gynnal asesiad o effaith tymor hir eu cynlluniau datblygu ar y Gymraeg.

Gall awdurdodau ail-ystyried eu cynlluniau datblygu os caiff polisi neu ddeddfwriaeth genedlaethol ei newid.

Dywedodd cynghorau sir Ceredigion a Chonwy nad ydyn nhw’n teimlo bod angen addasu eu polisïau, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru cyn gweithredu.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod, dywedodd llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, Tamsin Davies: “Mae ymatebion y cynghorau yn awgrymu bod dim wedi newid yn sgil y ddeddfwriaeth.

“Mae angen i’r Llywodraeth a’r cynghorau weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod symud ymlaen i weithredu’r newidiadau pwysig a cafwyd drwy’r ddeddfwriaeth.

“Mae angen amserlen gan y Llywodraeth o ran dod ag adrannau’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud a’r iaith i rym – ydyn nhw’n bwriadu ei weithredu cyn yr etholiadau fis Mai nesaf? Neu ydyn nhw’n mynd i lusgo eu traed?

“Mae nifer o gynghorau dan yr argraff bod modd iddyn nhw barhau yn yr un ffordd ag o’r blaen, ond dylen nhw fod yn paratoi a phwyso ar y Llywodraeth am arweiniad.

“Mae’r newid yn y gyfraith yn creu cyfle i gynghorau weithredu’n flaengar o blaid y Gymraeg.

“Fel mae pethau, mae perygl y bydd y sefyllfa yn arwain at ddryswch a llanast, fel mae profiad yng Ngheredigion yn dangos.

“Yn syth wedi pasio’r ddeddfwriaeth fe ysgrifennon ni at y Llywodraeth i ofyn beth oedd eu cynlluniau i sicrhau bod cynghorau yn derbyn arweiniad, ond nid oes cynlluniau clir ganddyn nhw i ddiweddaru’r canllawiau.”

Ceredigion

Ddechrau Gorffennaf, pleidleisiodd cynghorwyr Ceredigion dros gadw at bolisi sy’n golygu bod angen asesu effaith iaith ar rai datblygiadau unigol nad ydynt yn y Cynllun Datblygu Lleol: polisi sy’n groes i gyngor technegol cenedlaethol ar gynllunio – TAN20.

Rhybuddiodd swyddogion y cyngor nad oes sicrwydd bod penderfyniad cyngor i gadw at y polisi yn gyfreithlon.

Ychwanegodd Tamsin Davies: “Er bod swyddogion Cyngor Ceredigion wedi dweud bod polisi eu cynghorwyr yn mynd yn groes i ganllawiau presennol, TAN20, pe na bai’r Cyngor yn gofyn am asesiad effaith iaith ar ddatblygiadau o’r fath, gallai’r Cyngor fod yn agored i her gyfreithiol oherwydd bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol i ddatblygiad penodol.

“Felly mae TAN20 a’r ddeddfwriaeth newydd yn gwrthddweud ei gilydd.”

Daw’r newyddion wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi dogfen polisi ar faes yr Eisteddfod ynghylch sicrhau bod y stoc tai presennol yn cyfrannu at y nod o atal yr allfudiad a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Ymysg y siaradwyr yn y lansiad bydd cynrychiolwyr o’r mudiad sy’n ymgyrchu dros hawliau pobl ifanc yng Ngheredigion i dai , ‘Ble ti’n mynd i fyw?’ a chynrychiolydd o Shelter Cymru.