Mae dau ddyn 18 oed wedi’u cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o geisio llofruddio llanc 16 oed ym Mhontsenni.

Digwyddodd yr ymosodiad yn oriau mân fore Mercher.

Ymddangosodd y ddau gerbron ynadon Llandrindod ddydd Sadwrn.

Mae’r llanc 16 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae dyn 18 oed a gafodd ei anafu yn yr ymosodiad wedi’i ryddhau o’r ysbyty.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.