Mae dyn 19 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl i ddyn 73 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhenrhyn Gŵyr nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu galw am 10.55 nos Wener yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Rover a Kia ar ffordd Cefn Bryn ger Reynoldston.

Roedd Timothy Malone, 73 o Eastleigh yn Swydd Hampshire, ar ei wyliau gyda’i wraig.

Mae hi mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Treforys.

Cafodd dau ddyn arall driniaeth am fân anafiadau.