Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn yng Nghaerdydd fel achos o lofruddiaeth ar ôl dod o hyd iddo’n anymwybodol ar y stryd fore Sadwrn.

Bu farw’r dyn 35 oed yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ar Stryd y Gogledd yn y brifddinas.

Cafodd ei ddarganfod am oddeutu 4.20 fore ddoe gan yr heddlu, a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas â’i farwolaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.