Mae un o feirniaid cystadleuaeth Eisteddfodol ble cafodd darn o waith “afiach” ei gyflwyno wedi honni bod cynnwys y nofel yn ymwneud â chamdrin plant.

Yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, roedd cynnwys un nofel gafodd ei hanfon ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen mor “afiach” nes y bu rhaid gofyn i’r heddlu ymyrryd.

Mae un o feirniaid y gystadleuaeth, Dewi Prysor, bellach wedi dweud fod cynnwys y nofel yn “bedoffilaidd”.

“Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio. Fersiwn llenyddol o ddelweddau pedoffilaidd,” meddai Dewi Prysor mewn neges drydar dydd Sadwrn.

Gwaharddiad

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn ymchwilio i’r mater ar ôl i brif weithredwr y Brifwyl, Elfed Roberts, gyfeirio’r nofel atyn nhw gan godi pryderon y gallai natur y gwaith arwain at droseddu.

Cafodd y gwaith ei ddiarddel o’r gystadleuaeth am nad oedd y ffurflen ymgeisio wedi’i chwblhau yn iawn – ond nid cyn i’r beirniaid dderbyn copïau o’r nofel a dechrau ei darllen.

Yn ôl Y Cymro roedd o leiaf un o’r beirniaid – Dewi Prysor, Angharad Price a Robat Arwyn – wedi methu â darllen ond ychydig o dudalennau o’r gwaith, mor ffiaidd oedd ei chynnwys.

“Roedd o’n rhywbeth oedd yn pigo cydwybod ychydig bach,” meddai Elfed Roberts wrth esbonio i Golwg360 pam gafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu.

“Felly roeddwn i’n meddwl jyst rhag ofn i’r person yma geisio cario allan yr hyn yr oedd o neu hi’n awgrymu yn y gwaith, roeddwn i’n meddwl mai’r peth doethaf fyddai rhoi’r cyfan yn nwylo’r heddlu.”