Ynys Lawd
Mae pedwar o bobol wedi cael eu hachub o’r môr oddi ar arfordir Môn.

Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw ddwywaith wrth i bobol riportio iddyn nhw weld pedwar o bobol yn cydio’n dynn mewn cwch oedd wedi troi drosodd ger Ynys Lawd ger Caergybi.

Fe gafodd bad achub a hofrennydd achub eu hanfon i’w hachub.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y pedwar eu helpu allan o’r môr gan y cwch, cyn i un ohonyn nhw gael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd, Bangor gydag anaf i’w ben.

Mae’r tri arall hefyd bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond fe gawson nhw eu cludo yno mewn ambiwlans.

“Roedd y pedwar ohonyn nhw’n lwcus iawn,” meddai llefarydd ar ran gwylwyr y glannau, “oherwydd doedd yr un ohonyn nhw’n gwisgo siaced ddiogelwch.

“Mae’r ardal lle’r aethon nhw i drwbwl ynddi yn adnabyddus am ei thonnau uchel a chryfder y llanw.”